Mae mae (Ein Harglwydd hael yn trugarhau)

1,2,(3),4,5,6.
(Byw wyf fi, a byw fyddwch chwithau hefyd.)
      Mae, mae
Ein Harglwydd hael yn trugarhau,
Ei rad drugaredd sy'n parhau;
  Nis gallwn lai
          na'i foli'n awr,
    Am iddo'n dwyn i
            oleu'r dydd,
  A'n tynnu'n rhydd o'r
          cystudd mawr.

      Mawr, mawr,
Yw'r gras eglurwyd i ni'n awr,
Mae'n dyled wedi ei thalu 'lawr
  A'r ffordd o'r llawr
          i'r nef yn rhydd,
    Gelynion yn eu hol sy'n troi,
  Yn gorfod ffoi rhag arfau ffydd.

      Trwy ffydd,
Yn ngwaed yr Oen i'n gwnaed yn rhydd,
O'n carchar a'n caethiwed prudd;
  Ond ein Mechnïydd, fe'i daliwyd e',
    I ateb holl ofynion Duw,
  (Rhyfeddol yw) aeth yn ein lle.

      Yn lle
Y dynion gwaetha' dan y ne',
Yr Oen difai, dioddefodd ê,
  A hyn wy'n ddadleu, f'anwyl Dduw;
    A than ei gysgod
            gwnaf fy nyth,
  Mi a'i caraf byth tra fyddwyf byw.

      Byw, byw
Yw'r Iesu'm ffrind a'm Prynwr gwiw,
Er iddo gynt gael marwol friw;
  A sicr yw mai byw wna'r saint,
    O herwydd bod eu ceidwad cu,
  Yn eiriol fry; rhyfeddol fraint!

      Braint, braint
'Does neb a all fynegu ei maint,
Yw bod yn un o'r ffyddlon saint;
  Pan ddel digofaint Duw rhyw ddydd,
     Ar rai di-gred,
             fel tymhestl gre',
  Y duwiol fe dihangol fydd.
Grawn-Sypiau Canaan 1805

Tôn [288.888]: Prosper (<1829)

gwelir:
  Braint braint (Yw cael cymdeithas gyda'r saint)
  Byw Byw (Yw Iesu'r Ffrind a'r Prynwr gwiw)
  O pwy (All chwilio dyfais dwyfol glwy')?
  Trwy ffydd (Yn ngwaed yr Oen i'n gwnaed yn rhydd)?
  Yn lle (Y dynion gwaetha' dan y ne')

(I am living, and living shall ye be also.)
      He is,
Our Lord is generously showing mercy,
He gracious mercy is enduring;
  I can do nothing less
          than praise him now,
    Because he brought us to
            the light of day,
  And pulled us free from the
          great tribulation.

      Great, great,
Is the grace that was made clear to us now,
Our debt has been paid down
  And the way from the ground
          to heaven free,
    Enemies back are turning,
  Having to flee from the weapons of faith.

      Through faith,
In the blood of the Lamb to set us free,
From our prison and our sad captivity;
  But our Surety, he was held,
    To answer all the demands of God,
  (Wonderful it is) he went in our place.

      In the place
Of the worst man under heaven,
The faultless Lamb, he suffered,
  And this I argue, my dear God;
    And under his shadow
            I will make my nest,
  I shall love him forever while I live.

      Living, living
Is Jesus my friend and my worthy Redeemer,
Although he once got a mortal wound;
  And certain it is live shall the saints,
    Because their dear Saviour is
  Interceding above; wonderful privilege!

      A privilege, a privilege
(There is none that can express its extent)
Is being one of the faithful saints;
  When the wrath of God comes some day,
    On unbelieving ones,
            like a strong tempest,
  The godly he saved shall be.
tr. 2020 Richard B Gillion
 








































    To know
The saints' communion here below,
The fountain whence heaven's riches flow,
  Gives purer glow than earthly love;
The sweet communion
      here is blest,
  But far the best in heaven above.
tr. E Arthur Jones
Cân a Mawl / Song and Praise 1918

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~